Gwasgwyneg

Tafodiaith o'r Ocsitaneg neu iaith ynddi ei hun yw Gwasgwyneg[1] (Ocsitaneg: gascon) a siaredir yn y rhan o dde-orllewin Ffrainc sy'n cyfateb i diriogaeth hanesyddol Gasgwyn. Bu'n iaith swyddogol Gasgwyn am dros dair canrif. Y farn fwyaf cyffredin ymysg ieithegwyr yw ei bod yn dafodiaith o'r Ocsitaneg, ond crêd rhai ei bod yn iaith ar wahân. Mae'r iaith Araneg, a siaredir yn y Val d'Aran yn Sbaen yn ffurf o'r iaith Wasgwyneg. Ceir tua 250,000 o siaradwyr.

  1. Geiriadur yr Academi, "Gascon".

Developed by StudentB